Teithio a thrafnidiaeth

Universitat de València
February 4, 2019

¡Hola chicos!

Helo! A chroeso i’r post blog cyntaf o Valencia!

Dydi hi ddim wedi bod yn hir iawn ers i mi gyrraedd y ddinas, ond dydy hynny ddim i ddweud nad ydw i wedi bod yn dod i adnabod cymeriad y lle nac wedi bod yn darganfod llefydd newydd! Dwi wedi bod yn trio gwneud y mwyaf o’r cyfnod cyn i wersi gychwyn yn y Brifysgol, felly dwi wedi bod yn trio teithio o gwmpas y ddinas yn gweld cyn gymaint a dwi’n gallu!

Sy’n grêt ar gyfer thema y post hwn, sef teithio a thrafnidiaeth!

Mi fyddai yn canolbwyntio yn bennaf ar y ffyrdd o deithio dwi wedi bod yn defnyddio ers cyrraedd Sbaen, ond dydy hynny ddim i ddweud mai dyma’r unig ffyrdd o drafeilio yma! (I ddweud y gwir, mae tipyn o bobl yn defnyddio sgwters electronig i fynd o amgylch y ddinas- sy’n edrych reit cŵl- ond dydw i ddim wedi mentro eto!)

Dwi’n un o’r pobl ‘na sy’n hoff iawn o gerdded i bob man- o fewn rheswm!- a dwi wir yn credu ‘na’r ffordd orau i ddod i adnabod dinas ydi i gerdded o gwmpas. Yr unig broblem efo hyn ydi fy mod i’n aml yn mynd ar goll heb help Google Maps! Ond wrth fynd ar goll mi wnes i ddarganfod strydoedd bychan yn yr hen dref oedd efo digonedd o gelf graffiti- anhygoel! Dwi wrth fy modd efo’r lliwiau llachar a’r patrymau gwahanol sydd i weld yno, ond nid yn unig yn lliwgar ac yn ddeniadol, ond mae posib darganod rhai sydd efo pwrpas mwy ‘na hynny- er os yw’n edrych ychydig yn rhyfedd i gychwyn!

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r holl waith arlunio yma i’w gael am ddim- dim ond i gerdded o un lle i’r llall o fewn y ddinas- GRÊT!

Beth bynnag, mae cerdded gormod yn medru achosi gwaelod eich traed i losgi a brifo, felly mae’n beth da i gael ‘back up plan‘- felly, be well na’r opsiwn o feicio o gwmpas Valencia? Mae canol y ddinas yn fflat ac felly yn berffaith i unrhyw un- hyd yn oed rhywun sydd ddim yn or-hoff o feicio!

Mae system Valenbisi yn boblogaidd yma, gyda 275 o orsafoedd o amgylch y ddinas i bigo fyny ag i adael y beics- tebyg iawn i system Nextbike yng Nghaerdydd neu’r enwog ‘Boris Bikes‘ yn Llundain!

Dwi wrth fy modd yn mynd ar y beics yma- yn enwedig ym mharc Turía– sef parc enfawr yng nghanol y ddinas lle roedd yr hen afon yn rhedeg! Yn y parc mae digonedd o lwybrau i feicio, cerdded, rhedeg yn ogystal ac ardaloedd i gael picnic, chwarae pêl fas (‘baseball’) ac i ddringo ar gerflun o Gulliver!

Wrth gwrs, i brofiadu’r holl lefydd anhygoel sydd gan Valencia i’w gynnig, mae rhaid cyrraedd y ddinas yn y lle cyntaf. Dim ond 8km i ffwrdd o’r ddinas ei hun mae maes awyr Valencia, felly mae mynd a dod yn gyfleus iawn! Gan bod Sbaen yn wlad mor fawr, mae llawer o feysydd awyrennau mawr a bychan i’w darganfod yma (cyfanswm o 61!). Mae’n gyffredin iawn i hedfan o un rhan o’r wlad i’r llall yn hytrach ‘na dreifio, mynd ar drên neu cymryd bws!

Yn bersonnol, yr unig broblem sydd gen i gyda hedfan a chyrraedd maes awyr ydi yna darganfod ffordd o’r maes awyr i’r ddinas ei hun. Yn ffodus iawn, er bod Valencia yn ddinas gymahrol fychan, mae yma system metro gyda 6 llinell gwahanol yn cysylltu’r ddinas- mae yna hyd yn oed orsaf metro o flaen y brifysgol!

Wrth gwrs, mae hi hefyd yn bosib cymryd tacsi yn y ddinas. Mae’n hawdd i ddefnyddio app o’r enw Cabify neu hyd yn oed Uber pan mae angen mynd yn syth o un lle i’r llall. Mae tacsis hefyd yn berffaith ar gyfer pan mae’r system metro a bysiau wedi gorffen rhedeg am y dydd a does dim amynedd gen ti i feicio adref!!

Nid yn unig ar gyfer systemau tacsi mae’r apps- o na! Mae yna app ar gyfer y system metro er mwyn cynllunio pa linell i gymryd (MetroValencia); ac yna app o’r enw All Bikes Now sy’n dweud faint o feics sydd ar ôl mewn gorsaf feics sbesiffig, neu os oes yna le i barcio beic yno. Mae’r app yma wedi bod yn handi iawn i mi, gan ambell waith, mi fyswn i’n cyrraedd gorsaf, dim ond i ddarganfod nad oedd beic yno’n aros amdanai!

Yn lwcus i mi, roedd yna UN beic ar ôl y tro hwn, ond gwell gwneud yn siŵr cyn gadael y tŷ- rhag ofn!

Gobeithio wnaethoch chi fwynhau fy mlog cyntaf! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau neu os oes yna rhyw elfen gwahanol fysa chi’n hoffi gweld y tro nesaf- gadewch i mi wybod!

¡Hasta la proxima!

Universitat de València
February 4, 2019

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *