Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion (PLA)

Mae’r cynllun Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-9 mewn ysgolion a gynhelir gan AALl yng Nghymru. Mae’r disgyblion yn cael eu dewis gan eu hathrawon i arwain y dasg o godi proffil a hyrwyddo gwerth ieithoedd modern o gwmpas gymuned yr ysgol mewn partneriaeth â’r Adran Ieithoedd a chawsant eu hyfforddi gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru. 

Cofrestrwch eich ysgol yma i gymryd rhan yn y Rhaglen Llysgenhadon Iaith mewn ysgolion (PLA) 2023-2024.

Prif bwrpas y rôl 

Cynorthwyo’r adran ieithoedd i: 

  • Godi proffil yr adran ymhlith disgyblion, staff a’r gymuned ehangach
  • Rannu gwybodaeth am bwysigrwydd sgiliau ieithoedd ar gyfer gwaith a bywyd
  • Annog cyd-ddisgyblion i barhau astudio ieithoedd fel pwnc TGAU a thu hwnt. 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau 

  • Cefnogi’r adran ieithoedd wrth drefnu gweithgareddau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo ieithoedd 
  • Cyflwyno gwybodaeth mewn dosbarthiadau/gwasanaethau 
  • Creu arddangosfeydd pwrpasol yn yr ysgol ac ar gyfer digwyddiadau megis ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored a chyfarfodydd rhieni
  • Rhannu newyddion am y gweithgareddau gyda chymuned yr ysgol a Llwybrau at Ieithoedd Cymru. 

Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision i’r ysgol 

  • Cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o bwysigrwydd astudio ieithoedd 
  • Codi proffil yr adran ieithoedd 
  • Cynnydd yn y niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd 
  • Disgyblion brwdfrydig. 

Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision personol: 

  • Datblygu sgiliau cyfathrebu’n effeithiol 
  • Arwain a chwarae rolau gwahanol fel rhan o dîm 
  • Datblygu defnydd o dechnolegau digidol 
  • Meddwl yn greadigol i ddatrys problemau 
  • Meddwl am syniadau gwreiddiol wrth hyrwyddo ieithoedd yn yr ysgol 
  • Datblygu rhinweddau personol megis dibynadwyedd a phrydlondeb a gweithio o fewn terfynau amser.  

Gofynion penodol: 

 Brwdfrydedd dros ieithoedd – Dylai disgybl sy’n Llysgennad Iaith fod yn frwd iawn dros astudio ieithoedd. 

Cysylltwch â  info@routesintolanguagescymru.co.uk  i gael mwy o wybodaeth.