Disgrifiad Rôl

LLYSGENNAD IAITH – DISGYBL

DISGRIFIAD RÔL

 

TEITL Y RÔL: Llysgennad Iaith – Disgybl
YN CYNRYCHIOLI: Eich ysgol

YN GYFRIFOL I:

Pennaeth yr Adran Ieithoedd
LLEOLIAD: Eich Ysgol

Prif bwrpas y rôl

Cynorthwyo’r adran ieithoedd tramor er mwyn:

  • Codi proffil yr adran.
  • Rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd sgiliau ieithoedd tramor ar gyfer gwaith a bywyd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cefnogi’r adran ieithoedd i wireddu cyfres o ddigwyddiadau
  • Cyflwyno gwybodaeth mewn dosbarthiadau/gwasanaethau
  • Creu arddangosfeydd pwrpasol yn yr ysgol ac ar gyfer digwyddiadau megis ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored a nosweithiau rhieni.
  • Rhannu newyddion am eich gwaith gyda cymdeithas yr ysgol gyfan a swyddogion Llwybrau Cymru

MANYLION PERSONOL

Sgiliau a Gallu

  • Sgiliau cyfathrebu – Y gallu i roi a derbyn gwybodaeth yn glir
  • Sgiliau cyflwyno – Y gallu i gyflwyno gwybodaeth, mynegi safbwynt a dwyn perswâd
  • Sgiliau tîm – Y gallu i gydweithio fel rhan o grŵp
  • Dibynadwyaeth
  • Prydlondeb

Gofynion

  •  Brwdfrydedd dros ieithoedd – Dylai disgybl sy’n Llysgennad Iaith fod yn frwd iawn dros astudio ieithoedd.