Adnoddau

Rydym wedi ail-ymweld â’r archif ac wedi diweddaru rhai adnoddau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho fel copïau PDF. Isod fe welwch ddolenni at ein cardiau post geirfa liwgar a’n taflenni gyrfaoedd sydd wedi profi i fod yn hynod o boblogaidd a gall fod o ddefnydd mewn digwyddiadau ysgol megis nosweithiau rhieni/athrawon. Gallwch hefyd ofyn am gopi o’n hadnoddau ar gyfer Diwrnod Ewropeaidd Ieithoedd yr ydym yn siŵr y bydd eich disgyblion yn mwynhau. Yn ogystal â hyn, beth am lawrlwytho’r Calendr Llwybrau at Ieithoedd sy’n cynnwys dyddiadau sy’n dathlu traddodiadau a threftadaeth gwledydd Ewropeaidd a rhyngwladol eraill. Gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i’ch adrannau ieithoedd modern wrth i chi godi proffil a gwelededd ieithoedd yn eich ysgol.