Gweithdai ffilm a llenyddiaeth Safon Uwch

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnig cyfres o weithdai ffilm a llenyddiaeth i fyfyrwyr Safon Uwch. Bydd y gweithdai yn cefnogi’r cwricwlwm Ieithoedd Tramor Modern (ITM), a hefyd yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr.

Drwy ddadansoddi testunau allweddol, fel prif themâu a chymeriadau, bydd y gweithdai yn anelu at gryfhau dealltwriaeth y myfyrwyr ac ysgogi trafodaeth a gwaith meddwl pellach. Mae’r digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i athrawon gael gwybodaeth gan y tiwtoriaid Addysg Uwch, a sefydlu cysylltiadau â’r brifysgol ar yr un pryd.

Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor fydd yn hybu’r gweithdai, a darperir lluniaeth ysgafn.

 

Dyddiad Teitl Ffilm/Llenyddiaeth/Arall Safle Amser Darlithydd
24-Chwefror Goodbye Lenin Ffilm – Almaeneg Ystafell Cymraeg. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG  1 – 3 Dr Linda Shortt
2-Mawrth Gweithdy diwylliannol Arall – Almaeneg OSCRB. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG  1 – 3 Dr Anna Saunders
9-Mawrth La Haine Ffilm – Ffrangeg OSCRB. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG  1 – 3 Dr Joanthan Ervine
9-Mawrth Der Vorleser Llenyddiaeth – Almaeneg (Cyfrwng y Gymraeg) Treffpunkt. YIDM. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG 1 – 3 Dr Edith Gruber (Coleg Cymraeg)
9-Mawrth Mujeres al borde de un ataque de nervios Ffilm – Sbaeneg ClubMed, YIDM. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG 1 – 3 Dr Eva Bru-Domínguez
16-Mawrth Adolygu Lefel A Ffrangeg Arall – Ffrangeg (Cyfrwng y Gymraeg) Darlithfa 5. Prif Adeilad y Celfyddydau – Prifysgol Bangor LL57 2DG  1 – 3 Ms Sian Beidas, Coleg Cymraeg

Am ragor o wybodaeth neu i sicrhau eich archeb cysylltwch ag:
Rubén Chapela-Orri (Swyddog Cynorthwyo Llwybrau at Ieithoedd)
r.chapela@bangor.ac.uk

Cofrestwch o leiaf 10 diwrnod cyn eich gweithdy.