Georgia Redmore
Ddydd Iau, y pumed o Chwefror, fe aethom ni (y llysgenhadon Iaith) i Neuadd y Ddinas i gynrychioli Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac i ddysgu am bwysigrwydd ieithoedd i fywyd heddiw.
Rwyf yn hoff iawn o ddysgu Ffrangeg yn nosbarth TGAU Madame Hopkins ac roedd y saith ohonom yn frwd i ddysgu mwy am ein swydd fel llysgenhadon iaith a sut mae modd helpu eraill i fwynhau dysgu ieithoedd yn yr ysgol.
Branwen Thistlewood
Fy enw i yw Branwen ac rydw i’n llysgennad iaith yn fy ysgol i. Rydw i’n astudio Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd rhugl a dw i’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg fel ieithoedd tramor modern am fy nghyrsiau TGAU. Mwynheais i’r diwrnod Llysgenhadon Iaith yn fawr iawn, yn enwedig y sesiwn Sbaeneg lle adeiladon ni eglwysi allan o sbageti wrth siarad Sbaeneg! Teimlaf fod bod yn llysgennad iaith yn gyfle da i hybu ieithoedd i ddisgyblion ifancach gan fod astudio ieithoedd tramor ddim yn unig yn dda i’ch cymwysterau ond hefyd yn rhoi i chi sgiliau defnyddiol am byth!
Amy Lloyd Evans
Fy enw i yw Amy, rwy’n 14 oed ac yn cynrychioli fy ysgol fel Llysgennad Iaith. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ieithoedd ac yn teimlo’n frwdfrydig dros eu siarad. Rwy’n deall pa mor bwysig yw’r gallu i siarad ieithoedd tramor, yn enwedig wrth ystyried y sefyllfaoedd gwleidyddol rhwng gwledydd tramor ar hyn o bryd.
Rwy’n astudio Ffrangeg fel TGAU ond nid wyf yn astudio Sbaeneg er byddaf wedi hoffi gallu parhau gyda’r iaith. Mae fy Mam-gu yn wreiddiol o’r Iseldiroedd a hoffwn ddysgu’r iaith er mwyn gallu cyfathrebu gyda’r teulu yna.
Es i a rhai o fy ffrindiau i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd i hyfforddi fel Llysgenhadol Iaith. Dysgom am bwysigrwydd ein swydd fel llysgenhadon Iaith a chawson gyfle i greu syniadau am sut i hybu’r ieithoedd i blant iau’r ysgol. Fel grŵp, mae gennym lawer o syniadau gwreiddiol ac rydym yn edrych ymlaen at allu creu delwedd hwyl a diddorol i ieithoedd trwy ein gweithgareddau.