
Bydd y cynllun yn cydweithio ag ugain o ysgolion presennol y ‘Compact’, gan dargedu disgyblion hŷn (Cyfnod Allweddol 4-5) a fydd yn derbyn hyfforddiant gan staff Llwybrau Cymru a CILT Cymru i ddod yn Llysgenhadon Ieithoedd i’w galluogi i weithio o fewn eu hysgolion a’u cymunedau i godi proffil ieithoedd a’r holl fanteision a all ddod yn sgil eu hastudio.
Bydd y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer y rôl yn yr ysgolion yn arwain disgyblion iau. Yn ogystal â rhoi hwb i’w hunanhyder, fe fyddan nhw’n cael eu gwobrwyo gyda thystysgrifau a bathodynnau, ac fe fyddan nhw’n gallu ychwanegu at eu profiad ar eu cofnod o gyflawniad neu eu CV.
Rydym yn rhagweld y gallai’r llysgenhadon disgyblion:
• drefnu a chefnogi clybiau iaith i ddisgyblion iau. Gallai’r clybiau gynnwys chwarae’r gêm fwrdd Taith Iaith, defnyddio rhaglenni TGCh fel Quizlet neu Zondle, paratoi caneuon ar gyfer cystadleuaeth yn arddull Eurovision, helpu disgyblion i ymarfer a pharatoi ar gyfer cystadlaethau Spelling Bee, helpu gyda gwaith cartref ac ati;
• rhoi cyflwyniadau mewn gwasanaethau ar ddefnyddioldeb ieithoedd;
• mynd i nosweithiau rhieni a chefnogi’r digwyddiadau hynny, gan siarad gyda rhieni am yr adran ITM a manteision dysgu ieithoedd;
• cwrdd ag ymwelwyr â’r ysgol a’u cyfarch – er enghraifft, siaradwyr y cynllun Pencampwyr Ieithoedd Busnes;
• paratoi a dysgu micro-wersi i ddisgyblion blwyddyn 6 yn ystod dyddiau cynefino;
• ymweld ag ysgolion cynradd i ennyn brwdfrydedd disgyblion dros ddysgu ieithoedd.
Mae sesiynau hyfforddi eisoes wedi cael eu cynnal mewn nifer o ysgolion ac mae’r adborth y disgyblion a’r athrawon wedi bod yn wych, felly os ydych chi’n ysgol Compact ac yr hoffech gymryd rhan yn y fenter hon, cysylltwch â ni!