Dysgu iaith, byw dramor! Ehangwch eich gorwelion
Yn dilyn lawnsiad a dosbarthiad ein DVD, Dysgu iaith, byw dramor! Ehangwch eich gorwelion, rydym wedi mynd ati i lan lwytho’r adnodd yma i’r rhyngrwyd ac felly fe fydd nawr cyfle i chi wylio’r holl gyfweliadau a ymddangosir ar y DVD ar ein sianel YouTube.
Maent wedi cael eu lan lwytho’n unigol ac felly er mwyn dod o hyd iddynt, ewch at YouTube, teipiwch ‘RoutesCymru’ ac yna dewisiwch unrhyw ddisgybl. Ar y llaw arall, fe allwch fynd yn syth at unrhyw gyfweliad ar YouTube trwy glicio ar enw’r disgybl oddi tanodd.