Cystadleuaeth Sillafu Genedlaethol y ‘Spelling Bee’ 2023-24
Mae’r gystadleuaeth sillafu wedi’i chynllunio i gefnogi dysgwyr ym mlwyddyn 7 ac 8 sy’n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Chymraeg ail iaith yng Nghymru. Caniateir i ddysgwyr o ysgolion dwyieithog neu ysgolion cyfrwng Saesneg gystadlu yn y categori Cymraeg ail iaith.
Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i ddysgwyr i wella eu sillafu a’u geirfa, yn annog ynganu cywir ac bwysicach fyth, yn codi hyder y dysgwyr. Yn wahanol i’r Spelling Bee unieithog, mae gan ddysgwyr yng Nghymru y cyfle i dderbyn y geiriau yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys 4 rownd gyda’r nifer o eiriau’n cynyddu gyda phob rownd. Dylai’r gystadleuaeth gael ei lansio yn eich ysgol yn nhymor yr hydref a gorffen yn nhymor yr haf. Eleni, bydd POB rownd o’r gystadleuaeth sillafu yn cael ei gynnal mewn ysgolion.
Os hoffech i’ch ysgol cymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn yma, gofynnwn yn garedig i chi cwblhau’r ffurflen gofrestru isod erbyn diwedd tymor yr Hydref i dderbyn gwobrau i’r enillwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Ar ôl cofrestru, ewch i wefan swyddogol y Spelling Bee lle cewch hyd i’r holl adnoddau fydd eu hangen arnoch er mwyn cynnal y gystadleuaeth yn eich ysgol ac sy’n cynnwys:
- Llawlyfr athro
- Rhestr geirfa
- Tystysgrifau ar gyfer pob rownd
- Rhaglen gyfrifiadur y gystadleuaeth
- Gemau addysgol er mwyn ymarfer ar gyfer pob rownd
Hysbysiad Diogelu Data: Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data un unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych un unol â rheoliadau diolgelu data.