Mae cynnal Cynorthwyydd Iaith yn ffordd ddelfrydol o wella dysgu ieithoedd i’ch disgyblion.
Mae Cynorthwywyr Iaith yn siaradwyr brodorol o Franeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg, Tseiniaidd, Russian a Gaeleg. Maent fel arfer rhwng 20-30 mlwydd oed.
Gallant weithio gydag eich disgyblion i wella eu sgiliau iaith, cynyddu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a rhoi hwb i’w hyder. Gall cefnogaeth ychwanegol o Gynorthwywyr Iaith hefyd helpu ysgolion gweithredu polisi’r Llywodraeth ar ddysgu ieithoedd.
Gellir rhannu Cynorthwywyr Iaith mewn i dri chategori:
• Myfyrwyr prifysgol, yn astudio pynciau perthnasol i ddysgu
• Pobl sy’n bwriadu neu’n hyfforddi i fod yn athrawon
• Athrawon profiadwy (mae hyn fel arfer yn berthnasol i Gynorthwywyr Iaith o Tseina yn unig).
I ddarganfod mwy, ewch i http://www.britishcouncil.org/language-assistants/employ
Cynorthwywyr Iaith Tseiniaidd
Mae Cynorthwywyr Iaith yn siaradwyr lefel-frodorol o Fandarin. Athrawon profiadwy a cymwysedig yn eu mamwlad, maent yn dod â’r iaith a diwylliant Tseiniaidd I fyw yn y dosbarth trwy weithgareddau allgyrsiol.
Mae cynnal Cynorthwywyr Iaith Tsieiniaidd yn cynnig yr holl ysgol cyfle i ddysgu am un o economïau mwyaf cyflym i dyfu yn y byd, wrth ennill sgiliau iaith a phersbectif rhyngwladol.
Blwyddyn yma, bydd cyllid y CIT yn dod o Hanban a Llywodraeth Cymru.
I ddarganfod mwy, ewch i http://www.britishcouncil.org/school-resources/classroom-support/language-assistants/about/where-from/china