‘TAITH IAITH’ YN Y GWAITH

Pobl ifanc yn dysgu am bwysigrwydd ieithoedd mewn busnes
Lansiad adnodd newydd a ysgrifennwyd gan CILT Cymru ar gyfer Llwybrau at Ieithoedd Cymru i gefnogi ac annog mentrwyr busnes y dyfodol.
Crëwyd yr adnodd newydd hwn, Pecyn Diwrnod Menter Taith Iaith, gyda’r nod o dynnu sylw ac annog pennau busnes blaengar ifanc y dyfodol. Wrth glywed nifer cynyddol o fusnesau yn galw am bobl â sgiliau iaith er mwyn helpu i wella a chynyddu cysylltiadau a chyfraddau allforio gyda gwledydd tramor, mae’r adnodd newydd hwn yn dod ar adeg addas iawn.
Mae’r adnodd hwn, a gynlluniwyd mewn steil tebyg i ‘The Apprentice’, yn gofyn i ddisgyblion weithio mewn grwpiau i gynllunio a chyflwyno cynllun marchnata rhyngwladol ar gyfer ein gêm fwrdd, Taith Iaith, fel rhan o Ddiwrnod Menter. Wrth ddefnyddio’r wybodaeth yn y pecyn byddent yn cynllunio posteri hyrwyddo, yn ysgrifennu datganiad i’r wasg ac yn ystyried yr holl wahanol lwyfannau marchnata sydd ar gael. Mi fydd yn rhaid i’r grwpiau ystyried y sialensiau ieithyddol a diwylliannol o hyrwyddo mewn gwledydd tramor a gofynnir iddynt greu cynlluniau marchnata sy’n adlewyrchu’r gwahaniaethau hyn. Bydd pob grŵp yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid gyda’r rhai buddugol yn ennill gwobrau.
Mae ein gem fwrdd, Taith Iaith, yn adnodd i helpu pobl ifanc i ddysgu a deall y rhesymau dros ddysgu ieithoedd tramor. Llwybrau at Ieithoedd Cymru, mewn partneriaeth ag Adrenaline Brush, wnaeth gynllunio a chreu’r ffordd ddyfeisgar iawn hyn o gyfleu pwysigrwydd dysgu ieithoedd ymhlith pobl ifanc. Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru eisoes wedi derbyn copi o’r gêm AM DDIM a bu pobl ifanc o ysgolion uwchradd yn Wrecsam yn rhan o’r broses ymgynghori.
Medd Ceri James, Cyfarwyddwr Llwybrau at Ieithoedd Cymru, “Mae tystiolaeth gan arweinwyr mawr diwydiant, megis y CBI, yn dangos fod cyflogwyr yn edrych yn ffafriol iawn ar sgiliau iaith ac y gallent, ynghyd a sgiliau eraill, roi’r fantais holl-bwysig hynny tra’n chwilio am swyddi ; boed yn rhai technegol neu ym myd gwerthiant. Mae’r gem-fwrdd ‘Taith Iaith’ a’r pecyn Diwrnod Menter yn codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn mewn ffordd hwylus ac ysgogol. Os yw disgyblion yn dechrau ‘meddwl yn fyd-eang’ tra’n ifanc yna bydd mwy o siawns iddynt ‘deithio’n fyd-eang’ pan yn hŷn!”
DIWEDD
Llwybrau at Ieithoedd Cymru: Ani Saunders, Rheolwr a Chydlynydd Prosiect Llwybrau Cymru
Ebost: ani.saunders@ciltcymru.org.uk, Ffôn: 029 2026 5408 / 07854 319557
Mae Cyfweliadau gyda Ceri James, Cyfarwyddwr Llwybrau at Ieithoedd Cymru, ar gael ar gais gan Ani Saunders.
Gwefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru: www.routesintolanguages.ac.uk/cymru
Nodiadau i olygyddion:
- Datblygwyd y rhaglen Llwybrau at Ieithoedd gan bartneriaeth sy’n cynnwys tri sefydliad: Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Ieithoedd Modern (UCML), Canolfan Bwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Ieithoedd, Ieithyddiaeth ac Astudiaethau Ardal (LLAS), a CILT, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd. Mae’r rhaglen Llwybrau at Ieithoedd yn cael ei chydlynu gan dîm ym Mhrifysgol Southampton, dan gyfarwyddyd yr Athro Michael Kelly. http://www.routesintolanguages.ac.uk/
- Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cael ei gyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a CBAC.
- Dan arweiniad CILT Cymru mewn partneriaeth a 10 prifysgol ledled Cymru, nod benodol Llwybrau at Ieithoedd Cymru yw cynyddu nifer y rhai sy’n astudio ieithoedd o’r ysgol i’r brifysgol. Mae’n annog pobl ifanc i arddel agwedd gadarnhaol at ddysgu ieithoedd, ac yn hyrwyddo ieithoedd fel sgil hanfodol.
- Cyllidir CILT Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i rheolir gan CBAC.