Llwybrau Cymru’n sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer 2015-2016
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru bellach ar fin cychwyn ar ei seithfed flwyddyn. Mae’r prosiect arobryn yn un arloesol, gyda’r dasg o gynyddu’r nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern a hyrwyddo symudedd rhyngwladol myfyrwyr. Mae Llwybrau Cymru’n gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a phrifysgolion yng Nghymru. Ei nod yw pontio’r bwlch rhwng addysg uwchradd ac addysg uwch drwy gefnogi digwyddiadau, cystadlaethau a gweithdai, yn ogystal â chreu adnoddau a phartneriaethau ysbrydoledig rhwng myfyrwyr, athrawon, academyddion a gweithwyr proffesiynol byd addysg.
Y llynedd gwelwyd pedwar prifysgol yng Nghymru’n cynnig cefnogaeth ariannol (Caerdydd, Bangor, Aberystwyth a Metropolitan Caerdydd) er mwyn sicrhau bod bodd i weithgareddau Llwybrau Cymru barhau gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws Cymru. Yn dilyn blwyddyn o waith llwyddiannus gafodd effaith gadarnhaol, bellach mae’r British Council Cymru a Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru wedi ymuno â’r prifysgolion hyn gan ymrwymo arian i gefnogi rôl bwysig Llwybrau Cymru.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn lansio diweddar gweledigaeth Llywodraeth Cymru am Ddyfodol Byd-Eang – strategaeth i gefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mae Llwybrau Cymru’n ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r canolfannau enwebedig ar draws y Consortia Rhanbarthol i alinio gweithgareddau gyda’r strategaeth hon er mwyn darparu’r gefnogaeth orau bosibl ar gyfer athrawon a dysgwyr ieithoedd modern.
Meddai’r Athro Claire Gorrara, Arweinydd Academaidd Llwybrau at Ieithoedd Cymru “Mae parhad cyllido Llwybrau at Ieithoedd Cymru gan ei bartneriaid Addysg Uwch yng Nghymru, y British Council Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn dystiolaeth i hyd, lled ac arwyddocâd ei waith yn cefnogi ieithoedd modern yn y sector addysg – o’r ysgol gynradd i brifysgolion. Mae mwy o angen ymgysylltiad myfyrwyr â ieithoedd modern yn awr nag erioed er mwyn arfogi ein pobl ifanc yng Nghymru gyda’r sgiliau a’r hyder i weithio mewn byd aml-ieithog ac amlddiwylliannol sy’n datblygu’n gyflym”.
DIWEDD
Llwybrau at Ieithoedd Cymru: Alison Hughes,Cydlynydd Prosiect
e-bost:alison.hughes@routesintolanguagescymru.co.uk, ffôn: 029 2026 5410
Mae cyfweliadau gyda’r Athro Claire Gorrara, Cyfarwyddwr Academaidd Llwybrau Cymru, ar gael ar gais gan Alison Hughes.
NODIADAU I OLYGYDDION:
Cafodd y rhaglen Llwybrau at Ieithoedd ei datblygu gan dri sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth: Cyngor Ieithoedd Modern Prifysgolion (UCML), Canolfan Pwnc Academi Addysg Uwch ar gyfer Ieithoedd, Astudiaethau Ieithyddiaeth ac Ardaloedd (LLAS) a CILT, Canolfan Genedlaethol Ieithoedd. Mae’r rhaglenLlwybrau at Ieithoedd yn Lloegr yn cael ei chydlynu gan dîm ym Mhrifysgol Southampton, dan gyfarwyddyd yr Athro Michael Kelly.http://www.routesintolanguages.ac.uk/
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cael ei gyllido gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, British Council Cymru a Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru.
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cael ei reoli gan CBAC.