DATGANIAD I’R WASG
Cynllun cyfeillion ieithoedd yn ennill dwy wobr
Mae cynllun sy’n cysylltu disgyblion ysgol a myfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn dramor wedi ennill Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd mawreddog
Yr wythnos diwethaf, dathlodd Ewrop y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd ac i nodi’r achlysur, cafodd prosiectau iaith o bob rhan o’r DU eu cydnabod yn seremoni wobrwyo’r Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd. Ymhlith yr enillwyr roedd Llwybrau at Ieithoedd Cymru a hynny am eu cynllun Mabwysiadu Dosbarth.
Cynllun sy’n cysylltu disgyblion ysgol yng Nghymru â myfyriwr israddedig tra ar flwyddyn dramor yw Mabwysiadu Dosbarth. Caiff y disgyblion gyfle i gwrdd â’u cyfaill o fyfyriwr cyn iddo/iddi fynd dramor. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, maen nhw’n cadw mewn cysylltiad. Mae’r myfyriwr yn anfon gwybodaeth am y wlad lle mae wedi mynd i fyw. Mae’r disgyblion yn rhannu’r profiad o ddarganfod dinas newydd mewn gwlad arall heb orfod symud o’u dosbarth. Bwriad Mabwysiadu Dosbarth yw tanio brwdfrydedd y disgyblion ynghylch dysgu ieithoedd tra’n eu cyflwyno i’r posibilrwydd o dreulio amser dramor gyda chynlluniau symudedd myfyrwyr fel Erasmus.
Dechreuodd y prosiect yng Nghymru yn 2010 gyda myfyrwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe’n treialu’r syniad gydag ysgolion yn eu hardaloedd lleol. Mae Mabwysiadu Dosbarth bellach yn cychwyn ar y drydedd flwyddyn o gysylltu, ac mae wedi ehangu i gynnwys Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Yn dilyn ymweliad gan feirniad swyddogol ym mis Mai, dyfarnwyd y Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd i gynllun Mabwysiadu Dosbarth ar ôl profi ei fod yn arloesol, yn effeithiol a bod modd ei ddyblygu. Gwahoddwyd y tîm i’r seremoni wobrwyo yn y Comisiwn Ewropeaidd yn Llundain a gofynnwyd iddyn nhw gyflwyno’r prosiect hefyd.
Teithiodd Llinos Evans, Pennaeth Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Gyfun y Barri, ynghyd â Tom a Harry sy’n ddisgyblion yn yr ysgol, a’u cyfaill o fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Siôn Hupfield, i Lundain gyda thîm Llwybrau Cymru i gyflwyno’r prosiect a derbyn y wobr ar ran pob un o’r ysgolion a’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan ledled Cymru.
Newyddion hyfryd a hollol annisgwyl i’r tîm oedd clywed bod Sefydliad Diwylliannol yr Eidal wedi dyfarnu gwobr ychwanegol i Mabwysiadu Dosbarth a hynny am ei waith yn cefnogi’r iaith Eidaleg. Cyflwynodd Claudia Toffolo o Sefydliad Diwylliannol yr Eidal y wobr hon a oedd yn cynnwys detholiad o adnoddau Eidaleg.
Eleni, mae Mabwysiadu Dosbarth wedi cysylltu 19 o fyfyrwyr o bedair prifysgol â 14 o ddosbarthiadau ar draws Cymru.
DIWEDD
Ymholiadau’r wasg at: Ellie Jones, Rheolwr Prosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru, e-bost: ellie.jones@ciltcymru.org.uk, ffôn: 029 2026 5410
Cyfweliadau gyda Ceri James, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru, ar gael. Cysylltwch âg Ellie Jones.
Gwefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru: www.routesintolanguages.ac.uk/cymru .
Nodiadau i olygyddion:
- Am wybodaeth pellach ynglyn a Mabwysiadu Dosbarth, cysylltwch a Ellie Jones.
- Am wybodaeth pellach ynglyn a’r Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd a’r enillwyr yn 2012, ewch at wefan ganlynol: http://cilt.org.uk/home/valuing_languages/european_language_label1.aspx
- Datblygwyd y rhaglen Llwybrau at Ieithoedd gan dri sefydliad sy’n cydweithio: Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Ieithoedd Modern (UCML), Canolfan Bwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Ieithoedd, Ieithyddiaeth ac Astudiaethau Ardal (LLAS) a CILT, y Ganolfan Ieithoedd Genedlaethol. Mae’r rhaglen Llwybrau at Ieithoedd yn cael ei chydlynu gan dîm ym Mhrifysgol Southampton, dan gyfarwyddyd yr Athro Michael Kelly. http://www.routesintolanguages.ac.uk/
- Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cael ei gyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
- Dan arweiniad CILT Cymru ar y cyd ag 11 prifysgol ledled Cymru, nod benodol prosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru yw cynyddu nifer y rhai sy’n astudio ieithoedd mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae’n annog pobl ifanc i fod ag agwedd gadarnhaol at ddysgu ieithoedd, ac mae’n hyrwyddo ieithoedd fel sgil hanfodol.
- Cyllidir CILT Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i rheolir gan CBAC.
Adnoddau i’w llawrlwytho
