Mae’r Academi Brydeinig, gyda chefnogaeth Cynrychiolaeth Comisiwn Ewropeaidd yn y DU, wedi cynhyrchu llyfryn Dweud eich Dweud – canllawiau i uchafu eich rhagolygon gydag ieithoedd, sydd yn cyfleu cyffro dysgu ieithoedd ac arddangos sut gall parhau gydag astudiaeth ohonynt yn agor drysau i sawl profiad byw a gyrfa. Y bwriad y llyfryn yw bod yn ganllawiau ar gyfer myfyrwyr israddedig a disgyblion ysgol i esbonio gwerth dysgu ieithoedd.
Mae’r llyfryn yn cynnwys ardystiadau personol am ddysgu ieithoedd gan enwogion fel Arsène Wenger, Ellen MacArthur, Baroness Jean Coussins a Nick Holzherr. Mae cyfranwyr eraill yn cynnwys Pennaeth Cynrychiolaeth Comisiwn Ewropeaidd yn y DU, Cadeirydd UBS, cyflwynwyr teledu a radio’r BBC, Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd, a Chyfarwyddwr VSO Affrica, America Lladin a Grŵp Caribïaidd.
Bydd y ddolen hon yn eich cymryd i wefan yr Academi Brydeinig, lle gallwch gael mynediad i’r e-lyfryn, lawrlwytho’r pdf neu archebu copïau caled.
Nodwch fod yr adnodd ar gael yn Saesneg yn unig os gwelwch yn dda.