Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn falch iawn i wahodd athrawon, disgyblion arhieni i’n digwyddiad Ieithoedd: Eich Llwybr at Lwyddiant ar ddydd Sadwrn 27 Chwefror yn Mhrifysgol Bangor. Mae’r lleoedd yn cael eu cynnig am ddim ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rhieni a disgyblion sy’n penderfynu ar eu opsiynau TGAU, Safon uwch a Phrifysgol.
Mae fformat y digwyddiad yn cynnwys:
- Cyflwyniadau gan ddarlithwyr o’r Ysgol Ieithoedd am y cyfleoedd i astudio ieithoedd yn y Brifysgol.
- Cyflwyniadau gan fyfyrwyr iaith presennol am eu trydedd flwyddyn dramor a’r hyn y mae fel i astudio ieithoedd yn y Brifysgol.
- Cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr.
- Siaradwr o fyd diwydiant.
- Sesiwn flasu Siapaneg.
Y nod yw codi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli pobl ifanc a’u rhieni i’r posibiliadau a manteision astudio Iaith Dramor Fodern.
Digwyddiad: Ieithoedd: Eich Llwybr at Lwyddiant
Dyddiad: Dydd Sadwrn 27 Chwefror, 2016
Lleoliad: Darlithfa 1, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. LL57 2DG
Amser: 11.00-13.00
I sicrhau eich lle cysylltwch ag Ruben Chapela (swyddog cynorthwyo Gogledd Cymru) ar r.chapela@bangor.ac.uk