
De Cymru
Ffrangeg
Enillydd Rhanbarthol – Tanya, Howell’s School
2il – Huw, Ysgol Bro Morgannwg
3ydd – Sebastien, Cyfarthfa High School
4ydd – Twm, Ysgol Bro Morgannwg
Sbaeneg
Enillydd Rhanbarthol – Eleanor, Howell’s School
2il – Ritika, Howell’s School
3ydd – Razanne, Howell’s School
4ydd – Daisy, Howell’s School
Almaeneg
Enillydd Rhanbarthol – Hana, Howell’s School
2il – Holly, Howell’s School
3ydd – Aishu, Howell’s School
4ydd – Olivia, Ysgol Bro Edern
Cymraeg 2il Iaith
Enillydd Rhanbarthol – Jasneet, Howell’s School
2il – Amelia, Howell’s School
3ydd – Sophie, Ysgol Bro Dinefwr
4ydd – Morwenna, Howell’s School
Gogledd Cymru
Ffrangeg
Enillydd Rhanbarthol – Michael, Ysgol Maes Garmon
2il – Tomos, Ysgol Maes Garmon
3ydd – Owain, Ysgol Tryfan
4ydd – Gruff, Ysgol Tryfan
Almaeneg
Enillydd Rhanbarthol – Janine, St Joseph’s Catholic & Anglican High School
2il – Georgia, St Joseph’s Catholic & Anglican High School
3ydd – Emilia, St Joseph’s Catholic & Anglican High School
4ydd – Konrad, St Joseph’s Catholic & Anglican High School
Cymraeg 2il Iaith
Enillydd Rhanbarthol – Isabel, Ysgol John Bright
2il – Molly, Ysgol John Bright
3ydd – Layla, Ysgol Eirias
4ydd – Luke, Ysgol John Bright
Cynhaliwyd Rownd Ranbarthol De Cymru ar ddydd Mercher, 2 Ebrill yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Estynnwyd croeso mawr i staff Routes bawb gan y staff a’r disgyblion ac roedd llawer o fwrlwm a chyffro ar gyfer y gystadleuaeth.
Roedd Llwybrau Cymru yn ddiolchgar iawn i dderbyn cefnogaeth athrawon o ysgolion a oedd yn cymryd rhan yn ogystal â chyd-weithwyr o CILT Cymru gyda barnu a gwirio’r cystadlaethau. Yn ystod y digwyddiad, roedd cyfle i’r disgyblion ymarfer eu sillafu yn yr ystafell ymarfer neu roedd ganddynt hefyd y cyfle i gwblhau cwisiau ieithoedd a gweithgareddau eraill yn ymwneud ag ieithoedd rhwng y rowndiau.
Cynhaliwyd y rowndiau terfynol yn neuadd yr ysgol, a oedd yn osodiad crand i’r 16 disgybl a oedd yn cystadlu yn y rowndiau hyn. Er y pwysau mawr mewn sefyllfa ddieithr, fe ddangosodd y cystadleuwyr safon uchel iawn tra’n cystadlu am y teitl o Enillydd Rhanbarthol De Cymru a dylen nhw a’u hysgolion fod yn falch iawn ohonynt.
Prifysgol Bangor oedd lleoliad Cystadleuaeth Ranbarthol Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth, 8 Ebrill. Unwaith eto roedd yna deimlad a nerfusrwydd a chynnwrf ymysg y cystadleuwyr a’u cefnogwyr. Yn union fel y gwelwyd yn y De, roedd gan y cystadleuwyr wybodaeth drylwyr o’r geiriau.
Cymerodd gyfanswm o 144 ddisgyblion o 28 ysgol ran yn y rowndiau rhanbarthol ac fe welwyd safon uchel iawn o gystadlu gyda’r holl gystadleuwyr yn gwneud yn dda iawn yn sillafu’r geiriau, yn cynrychioli’u hysgolion ac yn dangos eu bod yn ieithyddion ifanc cymwys.
Hoffai Llwybrau Cymru ddiolch i bawb oedd wedi cynorthwyo’r disgyblion i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth a phawb a gymerodd ran ar y diwrnod.
Fe gynhelir Rownd Derfynol y Gystadleuaeth ym mis Gorffennaf yn Aberystwyth.