TAITH IAITH o Gymru i’r byd

DYFYNIAD GAN FAER WRECSAM 

“Fe greodd lansiad ‘Taith Iaith’ yng Nghymru ar 29ain o Fawrth argraff fawr arnaf i a’r Faeres yn enwedig gan fod y cynllun yn rhoi pwyslais ar farchnata yn ogystal â dysgu ieithoedd. Roeddem wedi ein synnu cymaint gan frwdfrydedd y disgyblion ar holl dîm fel y penderfynom ail-ymweld yn hwyrach yn y dydd i weld y canlyniadau, Cawsom ddiwrnod gwych ac rwy’n siŵr y gwnaeth y disgyblion ddysgu llawer am bwysigrwydd dysgu ieithoedd.”

 

DYFYNIAD GAN ALED ROBERTS, AC GOGLEDD CYMRU

“Mae’r ffigyrau diweddara yn datgeli fod yna lai o fyfyrwyr yn astudio ieithoedd tramor yng Nghymru. Er mwyn i Gymru allu datblygu a thyfu yn economaidd ac ym myd busnes, mae’n rhaid gwrthdroi’r dirywiad yma a datblygu sgiliau pobl ifanc mewn sawl iaith.

Rwy’n estyn croeso mawr i’r lansiad yma yn Ysgol Uwchradd St. Joseph a fydd yn siwr o hybu disgyblion i gael hwyl tra’n dysgu ieithoedd.”

 

DYFYNIAD GAN IAN LUCAS, AS WRECSAM

“Mae ieithoedd tramor yn bwysig iawn. Yn ogystal a bod yn AS i Wrecsam, rwyf hefyd yn Weinidog yr Wrthblaid i Affrica a’r Dwyrain Canol. O ganlyniad rwy’n gweld bron bob dydd fod gwledydd eraill yn cael gwell lwyddiant ar hyrwyddo ieithoedd. Mae’n rhaid i ni wella ein sgiliau cyfathrebu gyda gwledydd eraill er mwyn cael siawns o gystadlu yn economaidd ar lefel fyd-eang ac i fod yn fwy abl i ddelio gyda’r gwahanol fygythiadau at ddiogelwch. Rhaid i ni hefyd sicrhau fod gwledydd eraill yn gweld ein parodrwydd i ddysgu am wahanol ieithoedd a diwylliannau. Dymuniadau gorau i chi gyda lansiad ‘Taith Iaith’ ac rwy’n ymddiheiro na allaf fod yno gyda chi.”