Ar Fehefin 2, 2015, cyhoeddodd British Council Cymru ac Ymddiriedolaeth Addysg y CfBT yr arolwg cenedlaethol cyntaf ar addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru – Tueddiadau Iaith Cymru.
Canfu’r adroddiad y canlynol:
· Mae ieithoedd tramor modern yn cael eu gwthio i’r cyrion fwyfwy o fewn y cwricwlwm yng Nghymru
· Mae llawer o ddisgyblion ond yn cael y profiad lleiaf posibl neu brofiad tameidiog o ddysgu ieithoedd
· Nid yw manteision posibl dwyieithrwydd yn cael eu gwireddu yng Nghymru pan mae’n dod i ddysgu iaith dramor fodern
· Yn y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2005 a 2014, mae cofrestriadau lefel Uwch mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi haneru
· Dim ond 22% o ddisgyblion Cymru sy’n astudio TGAU mewn iaith ar wahân i Gymraeg neu Saesneg