
Prosiect allgymorth cenedlaethol yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru sy’n hyrwyddo gwelededd, defnydd a phroffil ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.
Yn draddodiadol ariannwd y prosiect gan bum Prifysgol yng Nghymru, y Consortia Addysg Rhanbarthol a’r Cyngor Prydeinig.
Ers 2016, bu Routes Cymru yn rhan o rwydwaith ehangach yn y DU o dan nawdd UCML, gan weithredu drwy ddwy ganolfan – un ym Mhrifysgol Caerdydd a’r llall ym Mhrifysgol Bangor. Bellach, mae Routes Cymru wedi symud i’w gartref newydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cynyddu gwelededd a hyrwyddo’r manteision o ddysgu ieithoedd sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru.