Pecynnau Cymorth Iaith Cynradd

Mwynhewch ieithoedd!


Mae ein Pecynnau Cymorth Ieithoedd Cynradd yn helpu athrawon i ennyn diddordeb dysgwyr ifanc a’u hysbrydoli i fwynhau darganfod ieithoedd a diwylliannau newydd. Wedi’u cynllunio ar sail y Cwricwlwm i Gymru, maent yn barod i’w defnyddio, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi addysgu iaith o’r blaen. Maent yn ennyn chwilfrydedd disgyblion, yn eu hannog i siarad ac yn eu hysgogi i ddarganfod mwy.


Mae ein Pecynnau Cymorth Ieithoedd Cynradd ar gael yn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd pecyn cymorth Pwyleg ar gael yn fuan! Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn anfon eich pecynnau cymorth atoch.

Pecyn Cynradd _Primary Toolkit
Pa iaith hoffech chi’r Pecyn Cymorth? / Which language would you like the Primary Toolkit?
A fyddech chi’n hapus i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ein digwyddiadau yn y dyfodol? / Would you be happy for us to contact you with information of our future events?

Hysbysiad Diogelu Data: Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data un unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych un unol â rheoliadau diolgelu data.

        Mwy o ieithoedd i’w harchwilio

        Oes gennych chi ddiddordeb mewn iaith wahanol? Mae ein pecynnau cymorth yn ymdrin â Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, a bydd pecyn Pwyleg ar gael yn fuan. Os yw eich disgyblion yn awyddus i roi cynnig ar iaith arall, dyma rai llefydd gwych i ddechrau.

        Mandarin

        Darganfyddwch fwy am Fandarin gyda’r rhaglen Chinese in Schools, gan Sefydliad Confucius Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

        Darganfod Mandarin

        Japaneeg

        Archwiliwch yr iaith Japaneeg gydag adnoddau gan Sefydliad Japan.

        Darganfod Japaneeg

        Wcreineg

        Archwiliwch yr iaith a’r diwylliant Wcreineg gyda Phecyn Addysg Iaith a Diwylliant Wcreineg y British Council. Mae’n cynnwys cynlluniau gwersi, syniadau ar gyfer gwasanaethau ysgol a gweithgareddau ar gyfer plant 7–11 oed, ac mae ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

        Archwilio’r pecyn

        Ready Steady NihonGO!

        Ewch â’ch disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar antur i Japan gyda chynllun gwaith sy’n cynnwys deg gwers, a luniwyd ar y cyd â Chymdeithas Japan.

        Dysgu mwy

        Use consistent language labelsMake the resource descriptions parallel