Rydym wedi ail-ymweld â’r archif ac wedi diweddaru rhai adnoddau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho fel copïau PDF. Isod fe welwch ddolenni at ein cardiau post geirfa liwgar a’n taflenni gyrfaoedd sydd wedi profi i fod yn hynod o boblogaidd a gall fod o ddefnydd mewn digwyddiadau ysgol megis nosweithiau rhieni/athrawon. Gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i’ch adrannau ieithoedd modern wrth i chi godi proffil a gwelededd ieithoedd yn eich ysgol.