YR AMGYLCHEDD
Coucou, et bienvenue !!! Reit, dw i ‘RIOED di sgwennu blog o’r blaen ac erioed wedi bod yn dda efo geiria (cliché, sori) ond dw i am roi cynnig arni ry’ fath. Dw i’n edrych ymlaen yn arw i rannu fy mhrofiadau o fyw dramor gyda chi, a gobeithio y bydd hanesion y profiadau hynny yn help ar gyfer eich astudiaetha’. Fel awgryma teitl y blog hwn, yr amgylchedd fydd y pwnc trafod. Ond cyn hynny, dyma gyflwyniad byr amdanaf i fy hun, pwy ydw i a beth ydw i yn ei wneud ar y funud !
En bref, moi, je suis Eleri, j’ai vingt ans et je viens du nord du Pays de Galles. Ma langue maternelle est le gallois, l’anglais est ma deuxième langue, le français : ma troisième, et l’espagnol : ma quatrième ! Je suis étudiante de français et d’espagnol à l’université d’Aberystwyth et en ce moment je suis en train de faire mon année à l’étranger. J’adore apprendre et enseigner les langues et c’est pourquoi j’ai choisi de devenir une assistante d’anglais en France cette année, et plus tard une étudiante dans une école de langue à Cadix. Depuis quelques mois, j’habite à Lamballe, une ville en Côtes d’Armor, une région en Bretagne. Je travaille au lycée et j’habite avec l’assistante d’espagnol et l’assistante d’allemand. J’ai donc plein d’opportunités pour améliorer mon espagnol, et apprendre quelques mots en allemand en même temps. Je passe mes week-ends en découvrant la Bretagne, c’est une région TROP JOLIE ! (si vous avez l’opportunité d’y aller, allez-y !!!!). Alors, voilà moi, on continue avec le blog…
*Yn ystod y blog hwn byddaf yn sgwennu yn Ffrangeg, Cymraeg a Sbaeneg yn hwyrach ymlaen. Felly, byddwch barod i ddefnyddio eich sgiliau iaith tra’n darllen.*
Reit, YR AMGYLCHEDD. Pwnc go ddiflas ar yr olwg gynta. « Am beth allai sôn ?! » « Sna’m byd fedrai ddeud !!». Ia, ia, dw i’n gwbod. Mae hi’n anodd trafod a lleisio barn ar rwbath nad ydych chi’n angerddol iawn amdano. Ond, dyma rai awgrymiada’ am beth y gallwch sôn; les éoliennes, les panneaux solaires, l’énergie nucléaire, l’empreinte carbone, le recyclage…
Er bod rhain i gyd yn dopics diddorol, canolbwynt fy mlog i heddiw fydd…. les gilets jaunes. Ah, oui, les gilets jaunes. Ça sera impossible de parler de l’environnement aujourd’hui sans parler des gilets jaunes. Oni bai eich bod wedi bod yn byw dan garreg am y misoedd diwethaf dw i’n siwr eich bod chi wedi clywed amdanynt. Anodd yw dianc oddi wrth protestio di-ddiwedd y grwp llachar hwn. Ond pwy yn union ydyn nhw ? Ac am be mae nhw’n protestio ? Beth sydd gen y grwp hwn i neud a’r amgylchedd ?! Darllenwch y wybodaeth isod !!
Pwy ydyn nhw //Qui sont-ils?
Pobl o ar hyd a lled Ffrainc sy’n protestio yn erbyn penderfyniadau diweddar Macron.
Pam eu bod nhw’n protestio/ Pourquoi manifestent-ils ?
Mae Macron yn gweithio ar greu Ffrainc wyrddach. Addawodd i leihau allyriadau carbon o 40% erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, cododd Macron dreth tanwydd yn 2017. Creodd hyn LAWER o stwr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad oes cymaint o drafnidiaeth cyhoeddus, ac felly mae car a phetrol yn hanfodol ar gyfer bywyd o ddydd i ddydd.
Sut gychwynodd yr holl beth/ Comment est-il commencé?
Ar Facebook !!!
Pam gwisgo siaced felyn / Pourquoi le ‘gilet jaune’?
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i yrrwyr yn Ffrainc gario siaced felen yn y car rhag ofn i ddamwain ddigwydd. Daeth y siacedi melyn yn symbol amlwg wrth i yrrwyr ddechrau eu gwisgo yn ystod protestiadau, a daeth yn ffordd hawdd o adnabod gwrthwynebiad i dreth Macron.
Lle mae nhw’n protestio/ Ou sont les manifestations ?
Mae protestiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Ffrainc. Rhai yn ddi-drais, rhai yn fach, eraill yn dreisgar, yn swnllyd ac yn niferus. Y protestiadau mwya’ adnabyddus oedd y rhai yn Paris. Gweler llun isod :
OND, er bod ffocws mawr wedi bod ar y protestiadau ym Mharis, mae amryw o brostestiadau wedi bod yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Rwyf innau, tra’n crwydro, wedi gweld ambell un. Dyma luniau o’r gwrthwynebiad yn Lamballe, y dre lle dw i’n byw :
Beth ydi’r cam nesaf ?
Yr ateb syml ar gyfer y cwestiwn yma ; tydw i ddim yn gwybod. I ryw raddau, mae’r protestiadau wedi distewi, OND, mae ambell i siaced felen dal i’w gweld o gwmpas y lle. Roeddwn i ym Mordeaux y penwythnos hwn, a bu ambell broblem gyda teithio ar y metro yno o achos protest! Felly, mae ambell un dal yn protestio a chodi twrw.
Er fy mod wedi gweld ambell i brotest, wedi darllen sawl arwydd a chlywed llawer iawn o gyrn yn canu, tydi’r gilets jaunes, na threthi Macron wedi cael unrhyw effaith aranaf i (hyd yn hyn). Lwcus ydw i, o bosib, gan fy mod yn byw mewn tref fach, ac felly does dim cymaint o brotestiadau mawr yma. Pwy a wyr beth sydd gan y gilets jaunes ar y gweill ar gyfer yr wythnosau nesaf? Tan hynny, gwrandewch ar y gan isod… mae hi’n boblogaidd iawn yn ddiweddar….
https://www.youtube.com/watch?v=1NAKkpENTpc tybed pam?!
Felly, dw i’n gobeithio bod gennych bellach well syniad pwy yw’r gilets jaunes a beth mae nhw’n wneud. Dw i hefyd yn gobeithio bod y blog wythnos yma wedi eich ysbrydoli i feddwl am agweddau gwahanol i’w trafod yn eich gwaith llafar ac yn ysgrifenedig. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, sylwad, neu unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu, ysgrifennwch hynny yn y blwch sylwadau isod. Diolch am ddarllen, tan tro nesa’,
Leri Wyn.