Bwyd a Diod

¡Hola chicos y chicas!

Pan yn meddwl am Sbaen, yn aml iawn mae bwydydd fel paella, tapas a patatas bravas yn dod i feddwl rhywun- ag o fewn rheswm hefyd, están ricos! Ond yn union fel ardaloedd gwahanol ym Mhrydain a Chymru, mae pob comunidad yn Sbaen yn arbenigo mewn prydau bwyd gwahanol.

 

Ar gyrion Valencia, mewn pueblo o’r enw Albufera, yn yr 19eg ganrif, mi wnaeth y paella- fel rydym yn ei adnabod heddiw- gael ei goginio am y tro cyntaf. Mae’n siŵr eich bod chi’n gyfarwydd efo’r pryd yma, ond yma yn Valencia, mae rhai cynhwysion sy’n gwneud y pryd hwn yn arbennig i’r ardal: arroz (La Fallera), conejo, pollo, judías verdes, porotos pallares grandes, azafrán yn ogystal a caracoles o dro i dro!

Wyt ti’n adnabod yr holl gynhwysion yma? Fysa ti dal yn trio’r paella valenciana yn gwybod be sydd ynddo?!

La semana pasada, fui a Albufera con mi compañera de piso y algunas amigas para difrutar la paella auténtica! Éramos siete entonces compartimos dos paellas diferentes- una valenciano y una de verduras. 

 

Wrth gwrs nid bwyd yn unig sydd angen ei drafod yn y post hwn, ond las bebidas hefyd!

Er bod Sbaen yn enwog am siestas ar ôl pryd o fwyd, mae hi hefyd yn hynod gyffredin i yfed coffi unrhyw awr o’r dydd yma! Yn bersonnol, dwi’n hoff iawn o’r café con leche, ond descafeinado para mí! Mae’r cortado hefyd yn boblogaidd, ond os nad ydych chi’n hoff o goffi ag eisiau rhywbeth melys, beth am Colacao? Yn syml iawn, powdr siocled poeth yw hwn, ond yn ôl y sôn efo fitaminau a mineralau ynddo hefyd! (Be well ‘na siocled iach?) Mae’n cael ei weini mewn caffis mewn pecyn bychan ag yna cwpan o lefrith poeth i ychwanegu’r powdr iddo.

Yn union fel yr amryw o fwydydd sydd ar gael mewn ardaloedd gwahanol yn Sbaen, mae pob ardal efo diodydd sbesiffig hefyd! Yma yn Valencia, mae dau reit adnabyddus yn y ddinas- Horchata ag Agua de Valencia. 

Mae’r horchata yn ddiod di-alcohol sydd yn flasus iawn efo pastry o’r enw farton! Mae’r diod wedi’w wneud o agua, azúcar a chufas. Mae’n edrych yn debyg iawn i milkshake, ond o be dwi wedi glywed- does dim llawer o bobl yn hoff iawn ohono! Beth bynnag, os am ei drio, yr amser gorau ydi yng nghanol y prynhawn (merienda) ar ddiwrnod poeth.

Diod arall yn Valencia sydd tipyn cryfach yw’r Agua de Valencia. Er bod y gair agua yn y teitl- does dim dŵr yn y diod hwn! Mae’n ddiod alcoholig a gafodd ei wneud gyntaf gan Constante Gil mewn tafarn yn Valencia yn 1959, sydd yn gymysgedd o sudd oren, siampen, fodca a gin.

Mi fuaswn i’n medru sôn am fwyd drwy’r dydd, yn enwedig y bwyd yma yn Sbaen! Felly, dyma restr o bethau eraill sydd werth eu trio os ydych chi am ymweld â’r peninsiwla yn fuan!

  • Tostada con tomate
  • Bocadillo de tortilla
  • Bocadillo de calamares
  • Chipirones
  • Pulpo a la gallega
  • Pimientos de Padrón
  • Patatas bravas y aioli
  • Las frutas (son deliciosas en verano!)
  • El chocolate con churros

 

¡LOS ÚLTIMOS CONSEJOS! 

Os am ymweld â Sbaen dentro del presupuesto (on a budget), manteisiwch ar y Menu del Día. Yn aml iawn, el almuerzo yw’r pryd mwyaf o’r dydd a mae bron pob caffi a bwyty amser cinio yn cynnig set menu am bris llawer rhatach na prynu’r prydau yn unigol! ¡Disfrutad!

Os eisiau darllen am fwy o fwydydd Sbaeneg- yn enwedig o ardaloedd gwahanol- dyma wefan Sbaeneg efo rhestr llawer mwy estynedig na’r post yma!: https://www.erasmusvalencia.com/gastronomia-espanola.html

 

Ydych chi wedi bwyta unrhyw un o’r bwydydd yma o’r blaen? ¿Os gusta?

¡Hasta la proxima!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *