Diolch i Gomisiwn Ewropeaidd yng Nghymru

“Yr ydych yn cychwyn ar antur fendigedig wrth ddysgu iaith. Mae’n ymwneud nid yn unig â chyfieithu’r byd i mewn i iaith arall: yn llythrennol mae’n ymwneud â deall y byd mewn ffordd wahanol”

Dyma fu geiriau ysbrydoledig David Hughes, Pennaeth Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn ei araith agoriadol yn rownd derfynol genedlaethol y ‘Spelling Bee’ y

David Hughes a Sian Stoodley o Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn derbyn rhodd wrth Kate Barber a Meleri Jenkins, Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

m Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar. Roedd ei eiriau yn berthnasol nid yn unig i’r 72 ieithydd ifanc a gipiodd eu lle yn y rownd derfynol, ond hefyd i holl ddysgwyr ifanc yng Nghymru mewn cyfnod o ansicrwydd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn y Deyrnas Gyfunol.

Er hyn, mae David yn rhagweld y bydd Brexit yn cynyddu’r angen am ieithoedd tramor modern a chyfleon ar gyfer ieithoedd a phwysleisiodd wrth y disgyblion: “Peidiwch â gadael i Brexit fod yn rhwystr i chi”. Mi fydd yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn un o bartneriaid masnachu mwyaf y Deyrnas Gyfunol, meddai. I amlygu hyn, defnyddiodd eiriau Willy Brandt (Canghellor yr Almaen 1969-1974): “Os ydw i’n gwerthu i ti, rwy’n siarad yn dy iaith di. Os ydw i’n prynu, dann müssen Sie Deutsch sprechen [rhaid i ti siarad Almaeneg]”. Am apêl bendant ar i bobl ifanc Cymru i ddysgu ieithoedd!

Roedd geiriau David serch hynny â thinc chwerwfelys iddynt, gan mai 2018 fydd y flwyddyn olaf y bydd y ‘Spelling Bee’ yn cael ei ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru. Ar ôl wyth mlynedd o gydweithio, bydd partneriaeth Llwybrau at Ieithoedd Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd yn dod i ben.  Hoffai Tîm Prosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru ddiolch i’w cydweithwyr yn y Comisiwn Ewropeaidd am eu cefnogaeth i’r gystadleuaeth iaith unigryw hon dros y blynyddoedd.

Diolch! Thank you! Merci! ¡Gracias! Danke!