Cardiau Post Iaith
Rydym ni yma yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn awyddus iawn i bobl o bob oedran i roi tro ar ddysgu ieithoedd modern. Dyna pam ein bod ni wedi penderfynu ail-lansio ein cyfres o gardiau post gyda brawddegau defnyddiol mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg a Siapaneaidd. Gallwch astudio’r ieithoedd yma fel gradd mewn prifysgolion ledled Cymru. Ewch ati i lawrlwytho’r cardiau post lliwgar yma a beth am anfon un at rywun nad ydych wedi ei gweld ers amser? Cliciwch ar yr iaith ar waelod pob llun er mwyn lawrlwytho’r cerdyn post o’ch dewis.