Mae ein Llysgenhadon Iaith Prifysgol yn ôl!

Yn hwyrach yn ystod y tymor byddwn yn hyfforddi tîm newydd o Fyfyrwyr Llysgenhadon Iaith mewn prifysgolion yng Nghymru. O fis Tachwedd 2023, bydd ein Myfyrwyr Llysgenhadon Iaith newydd ar gael i gyflwyno sesiynau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae ein Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn fyfyrwyr presennol sydd yn astudio ystod eang o gyrsiau eraill ar y cyd efo ieithoedd modern o fewn prifysgolion yng Nghymru. Mae ein myfyrwyr llysgenhadon iaith wedi’u hyfforddi i roi cyflwyniadau ar eu teithiau iaith bersonol, yn ogystal â sesiynau ar yr amrywiaeth eang o sgiliau a llwybrau sydd ar gael i ddisgyblion wrth ddysgu iaith newydd. Byddant hefyd yn gallu cynnig sesiynau blasu iaith yn eu hiaith ddewisol.
Gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno ceisiadau am sesiynau gydag ein myfyrwyr erbyn 17/11/23. Bydd hyn yn ein galluogi i ni sicrhau bod eich ceisiadau yn cael eu prosesu mewn pryd i dderbyn sesiwn yn ystod tymor yr hydref.
Bydd ail ddyddiad yn cael ei ryddhau yn hwyrach yn y flwyddyn ar gyfer ceisiadau myfyrwyr llysgenhadon iaith ystod tymor y gwanwyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am ein sesiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
I wneud cais am sesiwn gydag un o’n myfyriwr llysgennad iaith, llenwch y ffurflen isod:
NODER: Mae’r gefnogaeth hon ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn unig a bydd ein Llysgenhadon ar gael yn ystod dyddiadau eu tymor prifysgol yn unig.
Hysbysiad Diogelu Data: Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data un unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych un unol â rheoliadau diolgelu data.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein cynllun Llysgehnadon Iaith Prifysgol, yna cysylltwch â ni yn uniongyrchol: info@routesintolanguagescymru.co.uk.