Llywodraethwyr

Cynllun Peilot Llywodraethwyr Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Governors Cymru er mwyn cefnogi cyrff llywodraethol wrth iddynt wynebu’r heriau a’r gofynion cynyddol wrth gyflwyno Ieithoedd Modern. 

Pecyn Arfarnu Ieithoedd Modern

Mae mewnbwn llywodraethwyr mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr mewn ysgolion yn allweddol wrth gynllunio a llywio’r cyfleoedd a roddir i ddisgyblion, a gyda hyn mewn golwg, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi datblygu Pecyn Arfarnu Ieithoedd Modern er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraethol ac arweinwyr ysgol i:

  • greu naratif ar gyfer ieithoedd wrth baratoi ar gyfer arolygon Estyn
  • gefnogi’r ysgol trwy ofyn cwestiynau allweddol am y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd
  • gasglu data a gwybodaeth allweddol a fydd yn galluogi’r ysgol i asesu ‘iechyd’ ieithoedd modern yn yr ysgol
  • benderfynu ar anghenion eich disgyblion
  • gynyddu’r niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd modern – adeiladu capasiti

Darllenwch fwy am adnoddau’r Pecyn Arfarnu Ieithoedd Modern cyn eu lawrlwytho trwy glicio ar y botymau isod:

Am ragor o wybodaeth ar sut y gall Governors Cymru gefnogi eich ysgol yna dilynwch y ddolen hon i’w gwefan: www.governors.cymru/cymraeg/