Mae’r cynllun Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-9 mewn ysgolion a gynhelir gan AALl yng Nghymru. Cant eu dewis gan eu hathrawon i arwain y dasg o hyrwyddo gwerth ieithoedd modern yn y gymuned ysgol mewn partneriaeth â’r Adran Ieithoedd ac fe’i hyfforddir gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru*
*Bydd y sesiynau hyfforddi a drefnir gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cael eu trefnu’n rai rhithwir eleni. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am fwy o wybodaeth*
*Noder bod y cynllun hwn ar gyfer ysgolion uwchradd.
Prif bwrpas y rôl
Cynorthwyo’r adran ieithoedd i:
- Godi proffil yr adran ymhlith disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.
- Rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd sgiliau ieithoedd ar gyfer gwaith a bywyd.
- Annog cyd-ddisgyblion i barhau astudio ieithoedd fel pwnc TGAU a thu hwnt.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Cefnogi’r adran ieithoedd wrth drefnu gweithgareddau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo ieithoedd.
- Cyflwyno gwybodaeth mewn dosbarthiadau/gwasanaethau
- Creu arddangosfeydd pwrpasol yn yr ysgol ac ar gyfer digwyddiadau megis ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored a chyfarfodydd rhieni.
- Rhannu newyddion am y gweithgareddau gyda chymuned yr ysgol a Llwybrau at Ieithoedd Cymru
Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision i’r ysgol
- Cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o bwysigrwydd astudio ieithoedd
- Codi proffil yr adran ieithoedd
- Cynnydd yn y niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd
- Disgyblion brwdfrydig
Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision personol:
- Datblygu sgiliau cyfathrebu’n effeithiol
- Arwain a chwarae rolau gwahanol fel rhan o dîm
- Datblygu defnydd o dechnolegau digidol
- Meddwl yn greadigol i ddatrys problemau
- Meddwl am syniadau gwreiddiol wrth hyrwyddo ieithoedd yn yr ysgol
- Datblygu rhinweddau personol megis dibynadwyedd a phrydlondeb a gweithio o fewn terfynau amser.
Gofynion penodol:
Brwdfrydedd dros ieithoedd – Dylai disgybl sy’n Llysgennad Iaith fod yn frwd iawn dros astudio ieithoedd.
Cysylltwch â info@routesintolanguagescymru.co.uk i gael mwy o wybodaeth.