Cynradd

Er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth Cynradd er mwyn rhoi cymorth i athrawon cynradd wrth gyflwyno ieithoedd. Mae’r pecyn cymorth ar gael yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg ac mae’n cynnwys chwe cyd-destun dysgu a fydd yn ysbrydoli dysgwyr cynradd o’r pleser, y creadigrwydd a’r hwyl y mae dysgu ieithoedd yn ei gynnig. Os hoffech dderbyn copi o’r pecyn cynradd, cwblhewch y ffurflen isod.

“Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn un o elfennau cyffrous ein cwricwlwm newydd. Bydd yn ehangu addysgu ieithoedd rhyngwladol yn esbonyddol ac yn creu momentwm a chariad gwirioneddol at ieithoedd o’r cynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’r Pecyn Cymorth dwyieithog Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ac mae’n cefnogi ein gweledigaeth o ddathlu iaith a diwylliant a nodir ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Croesawu Cymru ddwyieithog mewn cyd-destun rhyngwladol.

Bydd y pecyn cymorth yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth iaith gyfoethog ledled Cymru ac yn helpu i ddatblygu dysgwyr y dyfodol — ein harcharwyr iaith!” Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Darllenwch am lansiad swyddogol y Pecyn Cymorth Cynradd yma.

Pecyn Cynradd _Primary Toolkit
Pa iaith hoffech chi’r Pecyn Cymorth? / Which language would you like the Primary Toolkit?
A fyddech chi’n hapus i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ein digwyddiadau yn y dyfodol? / Would you be happy for us to contact you with information of our future events?

Hysbysiad Diogelu Data: Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data un unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych un unol â rheoliadau diolgelu data.

Os hoffech adnoddau Mandarin cysylltwch â: Tsieinëeg mewn ysgolion – Sefydliad Confucius Caerdydd – Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Am adnoddau Eidaleg, cysyllwch â: g.donzelli@swansea.ac.uk

Ymunwch â’n Rhestr Bostio, dilynwch ni ar Twitter neu ymwelwch a’n tudalen Facebook er mwyn derbyn y diweddariadau a’r wybodaeth ddiweddaraf.