
Prosiect allgymorth cydweithredol ledled Cymru yw Routes into Languages Cymru sy’n hyrwyddo gwelededd, defnydd a phroffil ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.
Prosiect allgymorth cenedlaethol a ariennir gan dair Prifysgol yng Nghymru, y Consortia Addysg Rhanbarthol a’r British Council Wales yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru.
Yn rhan o rwydwaith ehangach yn y DU o dan ofalaeth yr UCML, ers 2016 mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi gweithredu fel prosiect dau hwb – un ym Mhrifysgol Caerdydd a’r llall ym Mhrifysgol Bangor – gyda dau gydlynydd prosiect wedi eu lleoli yn Ysgolion Ieithoedd y ddwy brifysgol hynny i gydlynu gweithgareddau’r prosiect.
Cynyddu gwelededd a hyrwyddo’r manteision o ddysgu ieithoedd sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Mae hyfforddi disgyblion cynradd, uwchradd a myfyrwyr addysg uwch fel Llysgenhadon Iaith yn un o’n prif weithgareddau a mae cyfraniad Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar bob lefel yn allweddol wrth godi proffil ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol eu hysgolion a’u cymunedau lleol. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen o weithgareddau amrywiol a digwyddiadau dros Gymru gyfan, ac ar hyn o bryd yn addasu ein gweithgareddau i fod yn rai digidol. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am fwy o wybodaeth.
Cyfarfod â’r Tîm
![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Dr Liz Wren-Owens | Meleri Jenkins | Rubén Chapela | Kate Barber | Kimberly Field | Jo Morgan |
Cyfarwyddwr Academaidd | Cydlynydd Prosiect – De Cymru | Cydlynydd Prosiect – Gogledd Cymru | Rheolwr Ymgysylltu a Rhyngwladol yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd | Cynorthwyydd Gweinyddol | Datblygwr Pecyn Cymorth Cynradd |