Pob blwyddyn mae’r British Council Cymru yn cynnal arolwg o ysgolion yng Nghymru ,gan adrodd ar brofiadau a gwybodaeth athrawon wrth addysgu ieithoedd tramor modern (ITM).
Eleni mae British Council Cymru wedi cynnwys y canfyddiadau o ran y niferoedd sy’n dewis astudio iaith fel pwnc Lefel A a TGAU, yn ogystal â barn arbenigwyr a sylwebyddion am addysg ieithoedd modern yng Nghymru.
Ym mlog diweddaraf Tueddiadau Ieithoedd Cymru, mae Meleri Jenkins, Cydlynydd Prosiect Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn edrych ar sut y gellid hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru-gan gynnwys y cynllun llysgenhadon iaith.
Darllenwch y blog yna: https://wales.britishcouncil.org/llwybrau-ieithoedd-cymru-prosiect-allgymorth-cenedlaethol