Iechyd a ffitrwydd corfforol

  

 

 

 

 

 

 

 

¡Holaaa chic@s!

¿Qué tal?

Yo sé que las fotos de arriba no son sobre el tema de la salud o la forma física, pero sin embargo, la semana pasada fui al casco antiguo y me encantaba los pinturas murales (y espero que vais a encantarlos también!).

… felly yn ôl i bwnc y post yma!

Yma yn Valencia, does dim angen mynd yn bell i weld pobl y ddinas yn ymarfer corff. Gan bod y tywydd yn reit sych a braf yma y rhan helaeth o’r amser, mae llawer o Valencianos wrth eu boddau yn ymarfer yn y parc ac yn yr awyr agored.

Nid yn unig rhedwyr a beicwyr sydd yn mynd i’r parc i wneud ymarfer corff, OND mae dosbarthiadau ffitrwydd yn cael eu cynnal yma hefyd!

Mae ymarfer corff (heb fod yn ran o dîm) yn medru bod yn rhywbeth unig i wneud ar ben eich hun o dro i dro- ond nid yma yn Sbaen! Mae dosbarthiadau Zumba, circuit training, pilates a hyd yn oed ioga yn cael eu cynnal ym mharc Turia. Mae pobl o bob oed wrthi- wir yr mae ‘na grŵp o ferched yn ei 70au yn gwneud circuit training bron bob diwrnod tua 6y.h.!

Resultado de imagen de volley ball on the beach

Nid yn unig yn y parc, ond mae rhai sesiynnau yn cael eu cynnig ar y traeth hefyd. Yn aml ar ddydd sul mae’r cyrtiau voleibol de playa yn llawn chwarewyr yn ymarfer eu siots! ¡Que guay!

Wrth gwrs, mae Valenbisi yn boblogaidd yma yn Valencia- yn galluogi unrhyw un i feicio ar hyd y lonydd beics o fewn y ddinas yn hytrach na cymryd bws, metro neu gar. Mae’n ffordd ymarferol o drafeilio o un lle i’r llall yn yr haul, ond hefyd ffordd gwych o helpu’r amgylchedd!

Resultado de imagen de valenbisi Resultado de imagen de valenbisi

Rwan, er bod ymarfer corff yn rhywbeth mae dipyn o bobl y ddinas wrthi’n gwneud pob diwrnod, mae yna elfen o ddiwydiant Sbaen sydd ddim yn hynod o iach, a hynny yw ysmygu.

Yn ôl Encuesta Nacional de Salud 2017, roedd 22% o’r boblogaeth yn fumadores– y cyfanswm isaf ers 30 mlynedd- a mae mwy o hombres yn ysmygu bob dydd o gymharu gyda’r mujeres. Yn ôl y sôn, mae rheswm hanesyddol am hyn: gan bod merched wedi cychwyn ysmygu yn hwyrach ‘na dynion (yn y 70au, ac ar ôl y Guerra Civil).

Resultado de imagen de smokers

Sy’n ein arwain at ran nesaf y post hwn-

Iechyd mewn rhifau:

  • 10%– y cynydd mewn Sbaenwyr sydd dros eu pwysau dros y 30 mlynedd diwethaf. (o 7% i 17%).
  • 74%– Sbaenwyr sy’n cysidro eu hiechyd i fod yn “bueno o muy bueno“.
  • 37.8%– canran y boblogaeth (sy’n hŷn ‘na 15 mlwydd oed) sy’n llenwi eu hamser rhydd gyda gweithgareddau ‘llonydd’, hynny yw, ddim yn ymarfer corff.
  • 82.83 mlynedd– yn ôl ystadegau 2016, hwn yw oed disgwyliedig Sbaenwr/aig.
  • 112– rhif argyfwng Sbaen (yn hytrach na 999 Prydain!)
  • 060– rhif ambiwlans Sbaen
  • 28 de abrildía internacional de la seguridad y salud en el trabajo
  • 7 de abrildía mundial de la salud

Resultado de imagen de dia mundial del salud

Os eisiau darllen ychydig mwy, dyma rai erthyglau am iechyd yn Sbaen:

https://elpais.com/politica/2018/06/26/actualidad/1530006620_107705.html

https://www.theguardian.com/world/2018/oct/16/spain-to-beat-japan-2040-world-life-expectancy-league-table

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *