TECHNOLEG A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Brittany
May 15, 2019

Eironig iawn ydi testun y blog hwn. Technoleg – mae o’n rywbeth mor wych, defnyddiol, ond eto’n medru creu cymaint o drafferth. Ac yn yr achos yma ; dim byd ond trafferth. Dw i wedi cael cryn drafferth gyda’r cyfrifiadur yn ddiweddar, gorboethi – cau lawr – colli gwaith L. Felly ymddiheuradau am y post (ofnadwy, ofnadwy o) hwyr. Je suis vraiment, vraiment désolée. Mais, quand même j’espère que vous allez bien et que vous êtes en train de préparer pour vos examens.

Yn ystod y blog hwn byddaf yn trafod gwefannau cymdeithasol ; Facebook ac Instagram a chael cip olwg ar les problèmes d’utiliser trop la technologie. J’espère que vous allez trouver ce blog utile et intéressant !!

Facebook.

Mae Facebook yn gret ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau adra a theulu tra’n gweithio dramor. Mae modd gyrru negas yn ddi-lol wrth wasgu ambell fotwm. Ac mae hynny’n anhygoel. Ond, mae ochr negyddol i Facebook hefyd. Mae o’n gallu bod yn ormod weithia’. Dw i mewn sawl ‘group chat’ gwahanol, ac ers symud i ffwrdd mae o fel tasa pobl yn sgwrsio ynddynt fwy nac erioed. Mae o’n constant. Neges ar ôl neges yn trafod pwy sydd ar y campws, pwy sydd ddim, pryd mae pawb yn mynd allan, pwy sy’n neud be, pryd ac efo pwy. Pethau, nad oedd yn berthnasol i mi tra oeddwn i ffwrdd. Roedd hynny’n anodd ar adegau, yn enwedig ar y dechrau, ac yn gwneud i mi deimlo fel taswn i’n colli allan. Ond, wrth i’r wythnosau fynd heibio, ac wrth i mi wneud ffrindiau newydd, a setlo mewn i’m mywyd newydd yn Llydaw bell, ro’dd be odd pobl eraill yn wneud ddim yn fy mhoeni i. Felly un tip i chi ; il ne faut pas penser aux autres. Canolbwyntiwch ar be’ da chi’n neud, y bobl sydd o’ch cwmpas chi. Ac wrth gwrs, peidiwch ac anghofio am eich ffrinidiau adra, da chi, siaradwch gyda nhw, ond cofiwch, mi fyddan nhw wastad yno pan fyddwch chi’n ôl, a gair i gall, fydd pob dim union ru’n peth pan ewchi adra, fydd na ddim byd di newid ers pan adawoch chi fisoedd yn ôl !

Instagram.

Os ydych chi’n fy nilyn i ar Instagram, fe ddylech chi wybod fy mod i yn lecio Instagram. Dw i wrth fy mod dyn postio llunia’ o lefydd dw i di bod, pobl dw i di weld a phethau dw i di neud. Ac er fy mod i, yn enwedig yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn spamio ambell i feed, dio’m ots. Mae fy instagram i yn adlewyrchiad ohona i. Ond, wrth gwrs, fel pob peth arall, mae ochr negyddol i Instagram hefyd. Mae rhai cyfrifion yn bodoli sydd ddim, o gwbl yn realistig. Hawdd iawn yw teimlo’n isel neu genfigennus tra’n edrych ar luniau perffaith pobl eraill. Ond be sy’n rhaid cofio ydi bod filters ar instagram, a bod pawb yn dewis beth mae nhw eisiau bostio. Anaml iawn mae pobl eisiau dangos adegau trist/negyddol eu bywyd ar instagram, il ne faut pas oublier ça.

Technoleg

Yr unig dip sy’ gen i. Peidiwch ac ymdduried mewn technoleg, byth. Dw i wedi anghofio sawl gwaith dw i di cael y bregath ‘cofia fackio dy waith fyny’ ‘tidi safio fo ar USB ?’. Ond tydw i dal ddim bob 7tro’n gwneud. OND, cofiwch wneud hynny, da chi. Yn enwedig efo gwaith ysgol neu waith coleg.  Ma colli’r gwaith sgwennish i ar gyfer y blogs yma wedi profi hynny. Yn o gystal â hynny, rhaid wastad cofio cael plan b. Dw i di troi fyny i ambell ddosbarth yn LHA gyda gwers wedi’i baratoi ar y cyfrifiadur. *sypreis* : weithia, tydi cyfrifiaduron ddim isho gweithio. Felly ar gyfer ambell i wers, j’ai dû improviser. Et ça n’est pas idéal. Felly er mwyn osgoi teimlo’n lletchwith o flaen llond dosbarth o llgada yn sbio arnoch chi, heb ddim byd wedi’i baratoi, gwnewch siwr bo’ gennych chi ambell dasg ar bapur yn barod, jesd rhag ofn.

Am rwan, dyna’r oll gen i. Os oes gennych unrhyw sylwad i’w ychwanegu, neu gwestiwn i ofyn, ysgrifennwch hynny yn y blwch isod. Et encore une fois, je suis désolée que je n’ai pas écrit depuis beaucoup de temps, mais, maintenant comme mon ordi marche encore une fois (j’espère que) je peux trouver les autres blogs que j’avais déjà préparée. Alors, je vous souhaite une bonne journée,

A très bientôt,

Eleri Wyn.

Brittany
May 15, 2019

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *