
Eleni, mae Diwrnod Ieithoedd Ewrop at y 26ain Medi yn dathlu 20 mlynedd o hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol a’r pwysigrwydd o ddysgu ieithoedd beth bynnag eich oedran. Beth am ddathlu’r diwrnod gyda’ch dosbarthiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth a phroffil ieithoedd ymhlith eich cymuned ysgol.
Mae gwefan swyddogol Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn cynnwys syniadau gwych yn ogystal ag adnoddau newydd ar gyfer 2021. Ewch i’w gwefan am fwy o fanylion.
Syniadau ar gyfer eich ysgol
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi paratoi adnoddau newydd er mwyn dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop 2021. Mae’r pecyn adnoddau’n cynnwys:
- rhestr o syniadau o weithgareddau y gellir eu cynllunio er mwyn dathlu’r diwrnod
- gwasanaeth dosbarth/ysgol – ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- cwis y gellir ei ddefnyddio gyda’ch dosbarthiadau neu fel gweithgaredd allgyrsiol i ddathlu’r diwrnod
- pecyn bwth ffoto er mwyn i chi gymryd lluniau o’ch dathliadau
Os hoffech gopi o’r adnoddau yma, cwblhewch y ffurflen isod. Bydd yr adnoddau’n cael eu e-bostio atoch:
Rydym yn hoffi gweld sut yr ydych yn hyrwyddo ieithoedd yn eich ysgol – tagiwch ni ar Twitter (@RoutesCymru)/Facebook (routescymru) fel ein bod yn medru eich llongyfarch!