Gwnewch cais am sesiwn ar gyfer Ionawr-Ebrill 2024!
Mae ein Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn fyfyrwyr presennol sydd yn astudio ystod eang o gyrsiau eraill ar y cyd efo ieithoedd modern o fewn prifysgolion yng Nghymru. Mae ein myfyrwyr llysgenhadon iaith wedi’u hyfforddi i roi cyflwyniadau ar eu teithiau iaith bersonol, yn ogystal â sesiynau ar yr amrywiaeth eang o sgiliau a llwybrau posibl i ddisgyblion wrth ddysgu iaith newydd. Byddant hefyd yn gallu cynnig sesiynau blasu iaith mewn amrywiaeth o ieithoedd.
Gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno ceisiadau am sesiynau i’w cynnal rhwng Ionawr-Ebrill 2024 erbyn 02/02/24. Bydd hyn yn ein galluogi i ni sicrhau bod eich ceisiadau yn cael eu prosesu mewn pryd i dderbyn sesiwn yn ystod tymor y gwanwyn. Gofynnwn hefyd i chi rhoi gymaint o wybodaeth â phosibl yn eich ymatebion os gwelwch yn dda. Sylwch, gall ysgolion ofyn am uchafswm o 3 sesiwn y tymor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am ein sesiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio ein tudalen cysylltu.
I wneud cais am sesiwn gydag un o’n myfyriwr llysgennad iaith, cwblhewch yr arolwg yma.
NODER: Mae’r gefnogaeth hon ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn unig a bydd ein Llysgenhadon ar gael yn ystod dyddiadau eu tymor prifysgol yn unig.