Y Gystadleuaeth
Rydym yn gweithio ar y digwyddiad hwn ar hyn o bryd, a byddwn yn diweddaru’r dudalen yn fuan gyda manylion am flwyddyn academaidd 2023-24. Cadwch lygad barcud ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau rheolaidd.
Mae Mamiaith, Ail Iaith yn gystadleuaeth farddoniaeth amlieithog sy’n dathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol drwy ysgrifennu creadigol, ac yn arddangos y nifer fawr o ieithoedd a siaredir ac a ddysgwyd gan bobl ifanc yn yr ysgol ac yn y cartref.
Sefydlwyd y project addysg Bardd Cenedlaethol hwn am y tro cyntaf gan yr Athro Carol Ann Duffy (Bardd y Frenhines 2009-2019) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Met Manceinion yn 2010. Dathliad ydyw o amrywiaeth ddiwylliannol a’r ieithoedd niferus a siaredir gan ddisgyblion yn ysgolion y Deyrnas Unedig.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i ysgolion cynradd ac uwchradd.
Gall grwpiau gyflwyno hyd at 6 chynnig fesul categori (Mamiaith ac Ail Iaith).
- Mamiaith: bydd yr ymgeiswyr yn dewis cerdd neu gân neu hwiangerdd a ddysgwyd iddynt neu sydd ar gof ganddynt, neu gallant gyflwyno darn gwreiddiol. Gall hynny fod mewn unrhyw iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg. Bydd sylwebaeth yn cyd-fynd â’r darn a gyflwynir, wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg neu Saesneg a heb fod yn hwy na hanner tudalen A4. Gallai’r sylwebaeth gynnwys cyfieithiad ond bydd hefyd yn egluro’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r darn, pam ei fod yn bwysig, pam y cafodd ei ddewis. Caiff y cynnig ei feirniadu ar sail y sylwebaeth hon ac nid ar sail y gerdd neu gân.
- Ail Iaith: bydd yr ymgeiswyr yn ysgrifennu cerdd, neu gân, mewn iaith nad yw’n iaith gyntaf iddynt ond yn iaith y maent yn ei dysgu ar hyn o bryd. Rydym yn derbyn cynigion yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Iseldireg, Portiwgaleg, Mandarin, Japaneeg, Arabeg, Pwyleg, Galiseg a Chatalaneg i’r categori hwn ar hyn o bryd. Os hoffech gyflwyno cerdd mewn iaith arall a addysgir, cysylltwch â ni; os gallwn ddod o hyd i rywun a all feirniadu cerdd yn yr iaith honno, byddwn yn ystyried ei chynnwys.