Mae’r cynllun Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-9 mewn ysgolion a gynhelir gan AALl yng Nghymru. Mae’r disgyblion yn cael eu dewis gan eu hathrawon i arwain y dasg o godi proffil a hyrwyddo gwerth ieithoedd modern o gwmpas gymuned yr ysgol mewn partneriaeth â’r Adran Ieithoedd a chawsant eu hyfforddi gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru.
Prif bwrpas y rôl
Cynorthwyo’r adran ieithoedd i:
- Godi proffil yr adran ymhlith disgyblion, staff a’r gymuned ehangach
- Rannu gwybodaeth am bwysigrwydd sgiliau ieithoedd ar gyfer gwaith a bywyd
- Annog cyd-ddisgyblion i barhau astudio ieithoedd fel pwnc TGAU a thu hwnt.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Cefnogi’r adran ieithoedd wrth drefnu gweithgareddau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo ieithoedd
- Cyflwyno gwybodaeth mewn dosbarthiadau/gwasanaethau
- Creu arddangosfeydd pwrpasol yn yr ysgol ac ar gyfer digwyddiadau megis ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored a chyfarfodydd rhieni
- Rhannu newyddion am y gweithgareddau gyda chymuned yr ysgol a Llwybrau at Ieithoedd Cymru.
Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision i’r ysgol
- Cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o bwysigrwydd astudio ieithoedd
- Codi proffil yr adran ieithoedd
- Cynnydd yn y niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd
- Disgyblion brwdfrydig.
Llysgenhadon Iaith mewn Ysgolion – manteision personol:
- Datblygu sgiliau cyfathrebu’n effeithiol
- Arwain a chwarae rolau gwahanol fel rhan o dîm
- Datblygu defnydd o dechnolegau digidol
- Meddwl yn greadigol i ddatrys problemau
- Meddwl am syniadau gwreiddiol wrth hyrwyddo ieithoedd yn yr ysgol
- Datblygu rhinweddau personol megis dibynadwyedd a phrydlondeb a gweithio o fewn terfynau amser.
Gofynion penodol:
Brwdfrydedd dros ieithoedd – Dylai disgybl sy’n Llysgennad Iaith fod yn frwd iawn dros astudio ieithoedd.
Cysylltwch â info@routesintolanguagescymru.co.uk i gael mwy o wybodaeth.